Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir o dan Reol Sefydlog 21.7
26 Medi 2022
Gweithdrefn: Drafft negyddol
O dan adran 2B Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2014), gall Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd gyhoeddi datganiad yn amlinellu blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat eu dilyn wrth gyflawni ei swyddogaethau perthnasol yn ymwneud â chwmnïau sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Rhaid i Ofwat gyflawni'r swyddogaethau hyn, sy'n cynnwys y penderfyniadau prisiau 5 mlynedd yn unol â'r SPS. Mae'r rhain yn cynnwys y disgwyliadau ar gyfer cynlluniau busnes cwmnïau dŵr (methodoleg) sy'n pennu'r fframwaith ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi a lefel gwasanaeth ac yn pennu taliadau dŵr. Bydd y penderfyniad nesaf ar yr adolygiad o brisiau yn 2024 ar gyfer y cyfnod 2025-2030.
Mae’r offeryn hwn yn creu’r SPS ac yn cymryd lle’r fersiwn gyfredol a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'r SPS yn nodi
nifer o uchelgeisiau ar gyfer y diwydiant dŵr yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu, y Strategaeth Ddŵr i Gymru a blaenoriaethau a deddfwriaeth benodol Llywodraeth Cymru. Daw’r rhain o dan 5 thema allweddol –Argyfyngau Hinsawdd a Natur, yr Amgylchedd, Cydnerthedd, Iechyd Asedau a Chwsmeriaid a Chymunedau.
Rhwng mis Mehefin 2021 a mis Chwefror 2022, yn unol ag adran 2B o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yr ymgyngoreion yn gefnogol ar y cyfan i'r SPS drafft.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi
Fe’u gosodwyd ar: 6 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym ar: Heb ei nodi